Mae'r octobeli sy'n mesur tymheredd y môr yn rhybuddio bod colofnau dwr peryglus ar fin codi i wyneb y môr, ac wrth i Harri fynd i gasglu'r octobêl ola mae'n cael dadl efo pysgodyn clicied sydd wedi gwneud ei chartref yn y bêl ac yn gwrthod symud i unman. Mae'r ddau mewn perygl wrth i golofn ddwr eu cludo allan i'r môr mawr, ond daw'r Octonots o hyd iddyn nhw a'u harwain i ddiogelwch.